Mi fydd cynhyrchwyr o Gymru yn rhan o gynllun newydd gan y cwmni bwyd cyflym, McDonald’s, i leihau’r defnydd o blastig untro yn eu bwytai.

Mae McDonald’s wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cael gwared ar welltynnau plastig o fis Medi ymlaen, gan ddefnyddio gwellt papur yn eu lle, ar ôl treialu gwelltyn papur yn eu bwytai yng ngwledydd Prydain

Daw’r cam hwn wrth i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cynlluniau cael gwared ar rai cynnyrch sydd wedi’u gwneud o blastig untro, a hynny mewn ymdrech i leihau’r niwed mae sbwriel yn ei wneud i’r amgylchedd.

Cymryd camau

Mae’r cwmni Transcend Packaging, sydd â’i bencadlys yn Llantrisant, ynghyd â’r cwmni rhyngwladol, Huhtamaki, eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw’n darparu gwelltynnau papur i’r 1,361 o fwytai sydd gan McDonalds yng ngwledydd Prydain.

Mae McDonald’s eisoes wedi treialu’r cynllun ers mis Ebrill, gan ddweud bod cwsmeriaid wedi ymateb yn dda iddo.

Mae cwmnïau eraill, fel Burger Kinng, JD Wetherspoon a Costa Coffee, hefyd wedi cymryd camau tebyg i leihau’r defnydd o blastig untro.