Mae Winston Roddick wedi cadarnhau wrth Golwg360 heddiw y bydd yn bresennol ar banel penodi Prif Weithredwr y sianel ddydd Gwener. Fe ddywedodd nad yw “erioed wedi gweld proses yn cael ei chynnal mewn ffordd mor deg â  hon”.

Daw hyn wedi i Aelod Seneddol ysgrifennu at S4C gan ddweud na ddylai’r bargyfreithiwr fod ar y panel i benodi’r Prif Weithredwr newydd – oherwydd ei fod yn ffrind agos i un o’r ymgeiswyr.

Dywedodd Guto Bebb, AS Aberconwy, ei fod wedi ysgrifennu at Huw Jones, Cadeirydd yr Awdurdod, gan ddweud na ddylai’r bargyfreithiwr Winston Roddick QC fod ar y panel am ei fod wedi datgan diddordeb oherwydd ei gyfeillgarwch gyda un o’r ymgeiswyr.

Mae Winston Roddick QC yn un o naw aelod o’r Awdurdod fydd ar y panel wrth gyfweld yr ymgeiswyr ddydd Gwener.

Mae Golwg 360 wedi cael ar ddeall fod Arwel Ellis Owen, y Prif Weithredwr dros-dro, Rhodri Williams, Aled Eurig, a Geraint Rowlands ymysg yr enwau sy’n debygol o gael eu cyfweld.

‘Dim problem’

Fe wnaeth Winston Roddick gadarnhau wrth Golwg360 y bydd ar y panel penodi ddydd Gwener gan ddweud mai dyna yw ei “swyddogaeth” – er ei fod wedi dweud mewn datganiad diddordeb wrth gael ei benodi i’r swydd ei fod yn ffrinnd i Arwel Ellis Owen.

Fe ddywedodd nad oedd yn gweld problem gyda’r datganiad diddordeb “o gwbl.”

“Dyna pam ’dw i wedi datgan fel bod pawb yn gwybod amdano. Mae’r broses yn agored, mae yna nifer ohonom ni. Bydd pob aelod yn bresennol, fe fydd ’na bobl annibynnol yn bresennol i gyd yn edrych dros ein hysgwyddau ni er mwyn cadarnhau bod y broses yn deg,” meddai cyn dweud nad yw “erioed wedi gweld proses yn cael ei chynnal mewn ffordd mor deg a hon.”

“Maen nhw wedi dod a phobl annibynnol i mewn i sicrhau  bod bob dim yn gywir,” meddai.

‘Cenedl fach iawn’

“Fel rydach chi’n gwybod yng Nghymru, i’r rhai sy’n gwneud cais o’r math yma, mi fysa fo’n od dros ben tasa na unrhyw un ymgeisydd nadd yw’r aelodau ddim yn eu hadnabod. Rydan ni’n genedl fach iawn.

“Dw i’n siŵr bod pawb sy’n gwneud cais, bod un neu arall neu fwy o’r aelodau yn eu hadnabod nhw ac yn eu hadnabod nhw’n dda.

“Fi sydd wedi gwneud y datganiad oherwydd fy mod i’n gydwybodol o beth yw fy nyletswyddau i ymddwyn yn broffesiynol – fel dw i wedi gwneud yn fy ngyrfa trwy fy oes.”

Ateb Guto Bebb

Roedd Guto Bebb wedi dweud mai’r “peth ola’ y mae’r sianel eisiau ydi fod cwmwl tros benodiad Prif Weithredwr newydd. Efo’i gefndir cyfreithiol, mi ddylai Winston Roddick fod yn ymwybodol o hyn”.

“Y peth olaf mae penodiadau cyhoeddus eisiau ydi  rhywun yn ymyrryd yn y broses,” meddai Winston Roddick.“Dw i’n gydwybodol iawn o ’nyletswyddau cyfreithiol fel cyfreithiwr, fel un sydd wedi dal swydd arwyddocaol yn gyhoeddus.

“Dw i’n gwybod yn union beth yw’r rheolau, dw i’n gwybod sut mae ymddwyn. Fydda i’n ymddwyn ac yn cydymffurfio gyda’r rheolau hyn. Dyna pam ‘dw i wedi gwneud datganiad. Y fi sydd wedi gwneud datganiad – neb arall,” meddai.

Ddoe, fe ddywedodd llefarydd ar ran S4C wrth Golwg360, “Fe fydd gofyn i bob aelod o’r awdurdod wneud datganiad o unrhyw ddiddordebau neu gysylltiadau cyn cychwyn y cyfarfod”. Gwrthododd y sianel gynnig sylw pellach am sylwadau Guto Bebb.