“Ar ôl chwe blynedd â Leanne Wood wrth y llyw, mae’n hen bryd am waed newydd.”

Dyna yw safiad Alun Lenny, un o gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr – grŵp sydd wedi galw ar yr Aelod Cynulliad, Adam Price, i ymgeisio i olynu Leanne Wood.

Mae’r cynghorydd yn cyfaddef ei fod ef ei hun wedi pleidleisio am Leanne Wood yn 2012, ond erbyn hyn, mae’n teimlo bod y Blaid yn “fflatleino” a bod angen “gweledigaeth ddeinamig a newydd”.

“Mae hi wedi cael chwe blynedd yn awr,” meddai Alun Lenny wrth golwg360.

“I fod yn deg, mae wedi gwneud ymdrech go lew ohoni, mewn cyfnod digon anodd. Ond, dydyn ni ddim wedi torri trwyddo yn y Cymoedd – dyna oedd prif nod Leanne.

“Gwnaeth hi ennill sedd ei hunan, a dyna gyd. O ystyried y sylw wnaeth hi gael yn y cyfryngau, bydde fe’n beth gwael os base hi heb ennill y sedd.”

Petasai yna gystadleuaeth, mae’n nodi y byddai yna dri ymgeisydd “gwych” am y rôl – Adam Price, Rhun ap Iorwerth, a Leanne Wood.

Pam Adam Price?

O’r 37 cynghorydd Plaid Cymru sydd ar y Cyngor, mae Alun Lenny yn nodi bod tri chwarter ohonyn nhw wedi datgan eu cefnogaeth i Adam Price.

Ac mae’n wfftio’r honiad mai cam plwyfol yw hyn – mae Adam Price yn cynrychioli dwyrain y sir. Yn ôl Alun Lenny, mae’r ffigwr yn “wleidydd craff iawn ac yn wleidydd cryf”.

“Mae e ben ac ysgwydd uwchben unrhyw un o’r ymgeiswyr Llafur yma sy’n gobeithio olynu Carwyn,” meddai.

“Bydde Adam Price yn bwyta unrhyw un ohonyn nhw i frecwast. Adam Price yw’r unig berson mae’r Blaid Lafur yn ei ofni.”

Adroddiadau

Mae BBC Cymru yn adrodd bod tri Aelod Cynulliad Plaid Cymru – Llŷr Gruffydd, Siân Gwenllian ac Elin Jones – wedi anfon llythyr at eu cyd-aelodau yn ennyn arnyn nhw i drio am yr arweinyddiaeth.

Ac wrth ystyried hyn mae Alun Lenny yn nodi: “Mae’r gair yn dod lawr bod ’na anniddigrwydd ymhlith aelodau’r Cynulliad.”

Bydd pwyllgorau etholaethol yn y gorllewin yn cwrdd ar ddiwedd y mis, i drafod enwebiadau ar gyfer ar arweinyddiaeth.

Does dim modd herio am arweinyddiaeth pleidiau yn y Cynulliad wedi Gorffennaf 4.