Mae cystadleuaeth ffotograffiaeth wedi’i lansio gan un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’n gofyn i bobol anfon lluniau i mewn fel rhan o’i ymchwiliad i gyflwr ffyrdd yng Nghymru.

Bydd y cynigion sy’n cyrraedd y rhestr fer yn rhan o arddangosfa yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd, a bydd y ddelwedd fuddugol hefyd yn ymddangos ar glawr adroddiad y Pwyllgor.

“Mae rhai ffyrdd prydferth yng Nghymru, ffyrdd prysur a ffyrdd eithaf ofnadwy hefyd,” meddai Russell George, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

“Rydyn ni’n chwilio am luniau sy’n crynhoi barn pobol am rwydwaith ffyrdd Cymru.

“Felly, p’un ai’n lluniau o dyllau yn y ffyrdd, yn olygfeydd o fylchau’r cymoedd neu’n lluniau sydyn o strydoedd trefol, rydyn ni am eu trafod fel rhan o’n hymchwiliad wrth i ni greu delwedd fanwl o gyflwr ffyrdd Cymru.”

Mae mwy o wybodaeth am yr ymchwiliad a’r gystadleuaeth ffotograffiaeth ar dudalennau gwe’r Pwyllgor.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno lluniau yw dydd Gwener, Gorffennaf 13.