Mae biolegydd môr o Brifysgol Aberystwyth yn ymuno ag astudiaeth ryngwladol i effaith newid yn yr hinsawdd ar ecosystem Cefnfor yr Arctig.

Mae Dr David Wilcockson o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn hwylio i Fôr Barents ar fwrdd yr RSS James Clark Ross fel rhan o raglen ymchwil £16m.

Yn ystod y fordaith mis bydd yn gweithio gyda gwyddonwyr o sefydliadau ar draws gwledydd Prydain, Norwy a’r Almaen ac yn edrych ar effeithiau cynhesu Cefnfor yr Arctig, o’i wyneb i’w wely.

Mae David Wilcockson yn ymuno gyda’r daith fel arbenigwr ar ymddygiad rhyddmig anifeiliaid morol. Bydd yn canolbwyntio ar blancton, anifeiliaid morol bychan iawn sydd yn sail i gadwyn fwyd y cefnforoedd.

“Rydym yn gwybod bod cynhesu’r cefnforoedd yn achosi i’r iâ grebachu a bod hyn yn effeithio ar nodweddion ffisegol a chemegol y dŵr, a bod hyn yn debygol o effeithio ar yr ecoleg,” meddai.

“Bydd deall sut mae’r plancton yn debygol o ymateb i’r newidiadau hyn yn rhoi syniad i ni o sut y gall hyn effeithio ar anifeiliaid mwy sydd yn bwydo arnyn nhw, yn bysgod, morloi neu forfilod.”

Y cefnforoedd yn cynhesu

Yn sgìl gaeafau cynhesach ar draws ardal ehangach pegwn y gogledd, mae’r iâ ar Gefnfor yr Arctig yn crebachu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac wedi cyrraedd ei fan isaf erioed.

Mae’r newidiadau hyn yn cael effaith nas gwelwyd o’r blaen ar sut mae ecosystem yr Arctig yn gweithredu.

Mae crebachu a theneuo rhew môr yr Arctig yn allweddol wrth yrru newid, gan gynyddu faint o olau sydd yn treiddio i’r môr a chymysgu’r dŵr gan ddod â dyfroedd dyfnach a chyfoethog o ran maetholion i’r wyneb.

Mae’r rhain yn ddau beth sydd yn diffinio pa mor gynhyrchiol yw Cefnfor yr Arctig y mae’r gadwyn fwyd gyfan yn dibynnu arnyn nhw.