Fe fu’n rhaid i RSPCA Cymru achub mwy o anifeiliaid llynedd o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Cafodd 8,220 o anifeiliaid eu hachub gan yr elusen yn 2017, sy’n gynnydd o 7.6% o gymharu â 2016, ac sy’n gyfystyr â 23 anifail bob diwrnod.

Ymhlith yr anifeiliaid yma yr oedd anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a chreaduriaid gwyllt – cafodd 4,919 o’r rheiny eu hachub.

Daw’r ffigurau newydd yma o Grynodeb Flynyddol RSPCA i Gymru, a gallwch weld rhagor ohonyn nhw islaw.  

Ffigurau

  • Bu ymchwiliadau i 10,176 o gwynion am greulondeb
  • Cafodd 2,140 anifail eu hailgartrefu
  • Cafodd 7,745 cath eu hysbaddu

“Eithriadol o brysur”

“Roedd 2017 yn flwyddyn eithriadol o brysur i’r RSPCA yng Nghymru,” meddai Martyn Hubbard, Uwch-arolygydd RSPCA Cymru.

“Mae gwaith arolygiaeth yr RSPCA yn amhrisiadwy, diflino a’n ddiddiwedd.

“Ac rydyn ni wedi llwyddo i achub, ar gyfartaledd, 23 anifail bob dydd yng Nghymru – er gwaetha’r ffaith mai ychydig iawn o swyddogion sydd ganddon ni.”