Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi dweud y byddai “wir yn hoffi” gweld cynllun Morlyn Bae Abertawe yn bwrw yn ei flaen.

Mae statws y cynllun £1.3bn – ynghyd â safiad y gweinidog ar y mater – wedi bod yn ansicr ers blynyddoedd, ac mae sïon yn dew bod gweinidogion yn awyddus i gefnu ar y morlyn.

Gerbron Aelodau Seneddol heddiw (dydd Mercher, Mehefin 13), fe alwodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, ar Alun Cairns i ddatgan ei gefnogaeth i’r prosiect.

Ac yn ddiweddarach yn ystod y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin, fe ddywedodd Alun Cairns y byddai “wir yn hoffi gweld y morlyn llanw yn bwrw yn ei flaen, ond wrth gwrs rhaid profi ei fod yn cynnig gwerth am arian”.

Gan ateb cwestiwn gwahanol, fe ddywedodd bod ei blaid “yn gwneud unrhyw beth a phopeth y gallwn i wneud hyn i weithio”.