Mae dwy Fenter Iaith yn y gogledd wedi dod ynghyd i annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn yr awyr agored.

Mae Menter Iaith Conwy a hunaniaith yng Ngwynedd wedi trefnu teithiau ar y cyd gyda phartneriaeth amgylcheddol i gynyddu hyder siaradwyr Cymraeg er mwyn defnyddio mwy ar yr iaith yn y sector amgylcheddol ac awyr agored.

Rhwng mis Mehefin a mis Medi, fe fydd Partneriaeth Cwm Idwal, a gafodd ei ffurfio gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri yn cynnal pedair taith yng Nghwm Idwal.

Bydd themâu’r teithiau, sydd wedi’u trefnu’n benodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y maes yn un o’r ddwy ardal, yn cynnwys bioamrywiaeth, daeareg, hanes enwau lleoedd ac agweddau ar dwristiaeth a rheolaeth.

‘Ystafell ddosbarth awyr agored’ 

Meddai Warden Partneriaeth Cwm Idwal, Guto Roberts: “Mae’r sectorau awyr agored ac amgylcheddol yn tyfu, mae’n allweddol ein bod yn gofalu fod yna ddigon o bobol sy’n gweithio yn y meysydd hynny nid yn unig yn siarad Cymraeg ond hefyd yn ei defnyddio o ddydd i ddydd yn eu gwaith.

“Mae Cwm Idwal yn cynnig ei hun yn berffaith fel ystafell ddosbarth awyr agored i ni ddehongli pob agwedd ar dirwedd, planhigion, bywyd gwyllt a threftadaeth ieithyddol y rhan yma o Eryri i bobol sy’n gweithio yn yr awyr agored.”