Cafodd ffrwydrad mewn tŷ yng Nghaerffili, ddydd Llun (Mehefin 11), ei achosi gan “eitemau yn tanio oddi fewn iddo”, yn ôl yr heddlu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle yn Dan-Y-Darren, Llanbradach am 5.30yh, a chafodd pum person eu cludo i’r ysbyty.

Bellach mae un o’r rhain wedi’u rhyddhau o’r ysbyty.

Mae tri unigolyn yn derbyn triniaeth am anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywydau, tra bod un person mewn cyflwr sefydlog ond difrifol.

Ni chafodd unrhyw un eu lladd, ac nid yw Heddlu Gwent yn chwilio am unrhyw un yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Er hynny, mae heddlu’n apelio am wybodaeth a’n galw ar aelodau’r cyhoedd i gysylltu â nhw trwy alw 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 360.