Fe fydd cynnyrch o Gymru yn cael ei arddangos yng ngorsaf drenau Paddington ddydd Iau fel rhan o ymgais i ddangos y cyfleoedd masnachu fydd ar gael ar ôl Brexit.

Fe fydd wyth cwmni o Gymru’n arddangos eu cynnyrch – popty Tan y Castell, hufen ia Franks, bragdy Monty, seidr Hallets, cyffaith Maesyfed, diodydd meddal Maesyfed, bwydydd fferm Cwm a chaws Cenarth.

Bydd seidr Hallets a chynnyrch bragdy Monty ar gael o 11y.b. tan 7y.h., ond yr holl gynnyrch arall ar gael rhwng 7y.b. a 7.y.h.

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yno’n cefnogi’r digwyddiad sy’n adeiladu ar ddigwyddiadau tebyg yn y gorffennol.

‘Cyfle ar ôl Brexit’

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae bwyd a diod o Gymru wedi ennill enw da haeddiannol am fod yn unigryw ac yn gynnyrch uchel ei ansawdd. Mae gennym dargedau uchelgeisiol ac rydyn ni am weld y diwydiant yn tyfu 30%, gan ddod yn werth £7 biliwn erbyn 2020. Rydyn ni’n agos iawn at gyrraedd y targed hwnnw’n gynnar.

“Mae’r digwyddiad hwn heddiw yn gyfle arall i gwmnïau bwyd a diod o Gymru arddangos eu cynhyrchion y tu allan i Gymru ac mae’n gydnabyddiaeth bellach o’r parch tuag at y sector.

“Mae’n arbennig o amserol wrth inni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.  Bydd y diwydiant bwyd a diod yn sector ‘sylfaen’ allweddol inni ar ôl Brexit. Rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau diwydiant cryf a ffyniannus yng Nghymru ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Dwi’n gobeithio y bydd teithwyr yn Paddington yn mwynhau blasu’r arlwy amheuthun a fydd ar gael yn yr orsaf ac yn achub ar y cyfle i brynu’r cynhyrchion uchel eu hansawdd a fydd ar werth.”