Mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi gan Gyngor Sir Conwy yn dangos eu bod nhw’n penodi mwy o siaradwyr Cymraeg erbyn hyn, ond fod llai yn cael eu penodi i swyddi lle nad yw’r Gymraeg yn hanfodol.

Mae’r ffigurau wedi’u cyhoeddi fel rhan o ddiweddariad i’r Cabinet ar waith y Cyngor i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r adroddiad yn nodi sawl gwelliant yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys lansio mewnrwyd hollol ddwyieithog fis Medi’r llynedd.

Mae hefyd yn nodi na chafwyd unrhyw gwynion o ran y Gymraeg, a bod nifer sylweddol o staff wedi ymrwymo i ddysgu’r Gymraeg drwy fynd ar gyrsiau dros y misoedd i ddod.

Penodi siaradwyr Cymraeg i swyddi

Yn ôl y diweddariad, llwyddwyd i benodi siaradwyr Cymraeg rhugl i’r holl swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, a bod nifer y siaradwyr Cymraeg sydd wedi’u penodi wedi cynyddu 3% dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ond fe fu gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y Cymry Cymraeg sy’n cael eu penodi i swyddi lle nad yw’r Gymraeg yn hanfodol.

Dim ond 26% o staff y Cyngor sy’n gwbl ddi-Gymraeg, tra bod 44% wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg. Mae 30% yn gwbl rugl.

Ymateb

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd y Cynghorydd Anne McCaffrey, Aelod Cabinet Democratiaeth, y Gyfraith a Moderneiddio: “Yn amlwg, mae’n dyheadau yn cael ei gyfyngu oherwydd y sgiliau iaith yn ein pŵl talent lleol, ond er gwaethaf hyn, mae’n tîm yn arloesol ac yn hyblyg wrth ddod o hyd i wahanol ffyrdd i wella ein perfformiad.

“Rwy’n hapus iawn gyda’r adroddiad a’n cynnydd hyd yn hyn. Mae’r adroddiad yn wych ac yn darparu tystiolaeth a sicrwydd o’n hymrwymiad i gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg.

“Hoffwn hefyd sôn am waith y Gwasanaeth Cyfieithu a’r incwm maen nhw’n ei gynhyrchu i gefnogi’r Cyngor hwn.  Mae ansawdd eu gwaith a’r gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu wedi golygu mai nhw yw “dewis gontractwr” cymaint o gynghorau cyfagos ac yn fwy diweddar, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

“Mae’r Gwasanaeth yn cyfieithu dros 13 miliwn o eiriau bob blwyddyn ac maen nhw’n haeddu cael eu llongyfarch am eu gwaith rhagorol, sy’n cefnogi gwaith y Cyngor o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd yn ein helpu ni i gyflawni ein nod o fod yn Gyngor cryf a hunangynhaliol sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.”