Mae’r cyflwynydd teledu, Bradley Walsh, wedi ennyn tipyn o ymateb ar gyfryngau cymdeithasol, ar ôl straffaglu i ddweud enw pentref Cymreig enwog.

Wrth gyflwyno rhaglen The Chase ddoe (dydd Llub, Mehefin 11),bu’n rhaid iddo ofyn y cwestiwn: “Ym mha ran o Gymru mae Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwyllllantysiliogogogoch?”

Ond, wrth gwrs, ni chafodd e unrhyw hwyl wrth geisio ynganu’r enw. “Wnes i drio, dw i mor sori,” meddai wedyn ar ôl rhoi cynnig arni.

Llwyddodd y cystadleuydd, Sarah, i ynganu’r enw, ond atebodd y cwestiwn yn anghywir gan ddweud mai yn Sir Benfro oedd y lle, yn hytrach nag yn Sir Fôn.

Ar gyfryngau cymdeithasol, mae gwylwyr y rhaglen wedi galw ymgais Bradley Walsh yn “ddoniol tu hwnt” ac yn “eitha’ uffernol”.