Mae pump o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn ffrwydrad mewn tŷ yn Sir Caerffili.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle yn Llanbradach toc wedi 5.30yp ddydd Llun (Mehefin 11).

Mae’r pump a gafodd ei hanafu yn dioddef o losgiadau, ond nid oes gwybodaeth eto ynglŷn â’u cyflwr.

Yn ôl Heddlu De Cymru, ni chafodd neb eu lladd yn ystod y digwyddiad.

Bu pum injan dân a phum car heddlu, ynghyd â’r ambiwlans awyr, yn bresennol ar y safle.