Mae swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y pla o bryfed yn Llanelli i gorff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ers bron i fis, mae pobol leol yn ardal Glanymor, Llanelli, wedi gorfod byw â phla o bryfed nad oedd neb, yn wreiddiol, yn gwybod o ble ddaethon nhw.

Ond mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cadarnhau eu bod nhw wedi darganfod un ffynhonnell bosib – sef canolfan ail-gylchu leol.

Rheoli’r pla

Erbyn hyn, mae’r awdurdod lleol yn dweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd rheolaeth dros dro o’r ganolfan.

Ond maen nhw’n mynnu bod ei swyddogion amgylcheddol yn parhau i weithio yn y gymuned, gan gynnig cymorth i drigolion lleol.

Ers canol yr wythnos ddiwetha’, medden nhw, maen nhw ymweld â’r ardal 256 o weithiau, gan ymateb 28 o weithiau i alwadau brys.

Mae dau sgip hefyd wedi cael eu gosod yn yr ardal erbyn hyn, er mwyn i bobol leol gael gwared o unrhyw wastraff sydd yn eu cartrefi.

Symud y gwastraff

Mae llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau ei bod nhw ar hyn o bryd yn symud y gwastraff o’r ganolfan ailgylchu, gan ymchwilio ymhellach i ffynhonnell y pla.

“Mae’r gwastraff a oedd yn achosi’r broblem ar hyn o bryd yn cael ei symud o’r safle ac fe fydd ein swyddogion yn sicrhau bod y cwmni yn cymryd y camau priodol i atal unrhyw broblemau yn y dyfodol,” meddai.