Mae gwraig o dde Cymru, a drywanodd ei gŵr yn dilyn ffrae feddwol wythnos cyn y Nadolig, wedi’i dedfrydu i wyth mlynedd o garchar.

Roedd Natasha Jex, 32 oed, wedi defnyddio cyllell gegin i drywanu ei gŵr, Neal, yn eu cartref yn ardal Penywaun, Aberdâr, ar Ragfyr 17 y llynedd.

Fe glywodd Llys y Goron Abertawe fod y pâr, a oedd yn briod ers 2011, wedi cychwyn ffraeo wrth deithio yn y car, gyda’r ffrae yn parhau yn y cartre’.

Yn ôl Natasha Jex, a ddywedodd wrth seicolegydd nad oedd ganddi unrhyw gof am y digwyddiad, roedd hi wedi mynd i’r gegin a chymryd cyllell cyn trywanu ei gŵr yn ei fron.

Er iddi alw’r gwasanaethau brys yn syth wedi’r digwyddiad, bu farw Neal Jex yn y fan a’r lle.

Roedd hi wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad.

“Trasiedi”

Mewn datganiad ar ran yr amddiffyniad, fe ddywedodd Christopher Quinlan QC fod yr achos hwn yn “drasiedi”, a hynny i deulu Neal Jex a’i wraig, Natasha.

Mi ychwanegodd nad oedd Natasha Jex, sy’n fam i ferch 14 oed, wedi lladd ei gŵr yn fwriadol, a’i bod wedi cyfaddef y cyfan i’r awdurdodau ar unwaith.

Mi ddywedodd y barnwr hefyd nad oedd yn ystyried Natasha Jex yn ddynes “beryglus”, a’i fod yn derbyn y ffaith ei bod yn “wirioneddol ddifaru” cyflawni’r weithred.