Mae dynes 37 oed, sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio merch bedair oed, wedi cael ei chadw yn y ddalfa ar ôl iddi ymddangos gerbron llys ynadon bore ma (dydd Llun, Mehefin 11).

Mi ymddangosodd Carly Ann Harris o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful heddiw wedi’i chyhuddo o ladd Amelia Brooke Harris a fu farw yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yn Nhrealaw, Rhondda Cynon Taf nos Wener, 8 Mehefin.

Yn ystod y gwrandawiad, mi glywodd y llys fod y cyhuddiad yn erbyn y ddynes o Heol Brithweunydd, Trealaw, mor ddifrifol fel bod rhaid i’r achos gael ei drosglwyddo i Lys y Goron.

Mi ddywedodd yr ynadon hefyd nad oedd ganddyn nhw’r grym i ystyried cynnig mechnïaeth.

Mi fydd Carly Ann Harris yn cael ei chadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, 12 Mehefin.