Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer darparu mwy o ofal o fewn y gymuned, gan leihau’r ddibyniaeth ar ysbytai.

Mae’r cynlluniau yn rhan o amcanion tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau mwy cydgysylltiedig mewn lleoliadau cymunedol.

Y gobaith yw na fydd pobol yn y dyfodol yn gorfod mynd i ysbyty cyffredinol, oni bai am adegau pan fo hynny’n hanfodol.

Mi fydd gwell wasanaethau gofal yn lleol, a fydd yn cynnig cymorth a thriniaeth, yn golygu wedyn y bydd cleifion sydd wir angen gofal mewn ysbytai yn gallu cael hynny ynghynt.

Mae hwb ariannol gwerth £100m yn cael ei fuddsoddi yn y cynlluniau, a hynny er mwyn eu gweithredu’n syth.

Addasu i’r dyfodol

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd ym Mae Caerdydd, Vaughan Gething, mae’r newidiadau newydd hyn yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr un flwyddyn â phan mae’r Gwasanaeth Iechyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.

Ond er ei fod yn “ymfalchïo”, meddai, yn llwyddiannau’r gwasanaeth, mae’n cydnabod ei fod dan “bwysau cynyddol”.

“Mae’r cynllun heddiw yn disgrifio ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol – mae’n edrych ar sut y gallwn addasu i ymateb i heriau’r dyfodol a gweddnewid ein modd o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd.

“Byddwn ni’n gweithredu’r newidiadau hyn, ar ac yr un pryd byddwn ni’n cadw at werthoedd craidd y Gwasanaeth Iechyd, gan ddarparu gofal iechyd am ddim i bawb.”

“croeso gofalus”

Mae’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) wedi rhoi “croeso gofalus” i’r newidiadau, gan alw ar fyrddau iechyd i gydweithio â doctoriaid a staff rheng flaen i sicrhau llwyddiant y cynllun.

“Mae’n hynod bwysig bod doctoriaid yn cael eu hymgysylltu ac yn rhan o unrhyw newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd, a bod eu harbenigedd yn cael eu hystyried fel eu bod nhw’n gallu parhau i ddarparu’r gofal gorau posib i gleifion,” meddai cadeirydd y gymdeithas yng Nghymru, Dr David Bailey.