Mae dau berson wedi marw mewn damwain awyren fechan yn Sir Fynwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad yn Rhaglan tua 11.15yb ddydd Sul, 10 Mehefin.

Dywed Heddlu Gwent bod dau ddyn wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae eu teuluoedd wedi cael gwybod yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae ymchwilwyr o Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr wedi cael eu hanfon i’r safle er mwyn ceisio darganfod beth achosodd y ddamwain.