Mae dynes 37 oed wedi’i chyhuddo o lofruddio merch, 4 oed.

Fe fydd Carly Ann Harris, o Drealaw, Y Rhondda yn mynd gerbron Llys Ynadon Merthyr bore dydd Llun ar gyhuddiad o ladd Amelia Brooke Harris a fu farw nos Wener, 8 Mehefin.

Yn gynharach roedd ei theulu wedi talu teyrnged iddi mewn datganiad gan ddweud ei bod hi’n “ferch, chwaer, wyres, gor-wyres, nith a chyfnither gariadus”, a’i bod hi’n “brydferth ar y tu mewn a’r tu allan, yn hwyliog, yn ofalgar ac yn ferch fach fywiog”.

Ychwanegodd y teulu: “All geiriau ddim cyfleu sut rydyn ni’n teimlo ar hyn o bryd. Rydym yn gwybod na fydd ein bywydau’r un fath fyth eto.”

Mae swyddogion cyswllt teulu arbenigol o Heddlu De Cymru yn rhoi cefnogaeth i’r teulu.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Jones o Heddlu De Cymru bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r ferch fach yn ystod y cyfnod yma.

Mae hefyd wedi diolch i’r gymuned leol am helpu’r gyda’r ymchwiliad gan ychwanegu: “Dw i eisiau atgoffa aelodau o’r cyhoedd i ddangos cyfrifoldeb cyn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.”

Ychwanegodd bod rhai sylwadau wedi ypsetio’r teulu ac y gallai effeithio’r ymchwiliad.