Mae dynes 25 oed yn derbyn triniaeth ar ôl cwympo 30 troedfedd i lawr ochr clogwyn yn Ninbych-y-Pysgod ddydd Sadwrn.

Cafodd gwylwyr y glannau a’r gwasanaeth tân eu galw i’r traeth yn dilyn y digwyddiad am oddeutu 10.50 nos Sadwrn.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ond does dim cadarnhad o’i chyflwr ar hyn o bryd.