Llys y Goron Caerwrangon lle bydd cefnogwr yn wynebu achos dynladdiad
Mae dyn arall o Loegr wedi ei arestio ynglŷn â marwolaeth un o gefnogwyr Cymru cyn y gêm bêl-droed rhwng y ddwy wlad wythnos yn ôl.

Fe gafodd y dyn o Swydd Caerwrangon – Worcestershire – ei holi yn swyddfa West Mercia cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Ef yw’r pedwerydd dyn o’r ardal i gael ei drin felly – roedd tri arall wedi mynd yn wirfoddol at yr heddlu yr wythnos ddiwetha’.

Ond echdoe, fe fu un cefnogwr pêl-droed o Redditch o flaen llys ar gyhuddiad o achosi dynladdiad Mike Dye, 44, o Gaerdydd.

Fe fydd Ian Mytton, 41, yn ymddangos yn Llys y Goron Caerwrangon ymhen pythefnos.

Cefnogwyr Cymru’n anfodlon

Ar y dechrau, roedd chwech o gefnogwyr o Gymru wedi cael eu harestio ond fe gawson nhw eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae cefnogwyr Cymru wedi dechrau holi cwestiynau am y ffordd yr oedd yr heddlu wedi delio â’r mater.