Mae disgwyl i Lafur Cymru gymeradwyo cynlluniau i gynnal cynhadledd i benderfynu sut fydd eu harweinydd nesaf yn cael ei ethol.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones eisoes wedi cyhoeddi ei fwriad i gamu o’r neilltu ym mis Rhagfyr.

O dan y drefn bresennol, ni fyddai angen mwyafrif ar yr ymgeisydd llwyddiannus i ddod yn arweinydd y blaid. Ond mae ymgyrchwyr yn galw am newid y drefn er mwyn sicrhau bod yr holl bleidleisiau yr un mor werthfawr â’i gilydd.

Ar hyn o bryd, mae’r bleidlais wedi’i rhannu’n dair – rhwng Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad, aelodau’r blaid, ac undebau a grwpiau cysylltiedig.

Mae ymgyrchwyr yn galw am newid y drefn o’r coleg etholiadol i ‘un aelod un bleidlais’, gan ddweud y byddai’n ffordd fwy democrataidd o ethol arweinydd newydd. Dyma’r drefn a gafodd ei defnyddio gan Lafur Prydain i ethol Jeremy Corbyn.

Ond mae cefnogwyr y coleg etholiadol, gan gynnwys Carwyn Jones, yn dweud ei bod yn adlewyrchu cefnogaeth yr undebau llafur.

Papur

Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cwrdd yng Nghaerdydd heddiw i ystyried papur sydd wedi’i gyflwyno ar strwythur arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Mae Carwyn Jones wedi awgrymu bod angen adolygiad o strwythur y blaid, sy’n cynnwys sut caiff arweinydd y blaid ei ethol. Ei obaith yw y bydd yr adolygiad hwnnw’n cael ei gwblhau cyn dewis ei olynydd.

Fe allai’r gynhadledd, felly, gael ei chynnal ar Fedi 15.

Ar hyn o bryd, dim ond yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford sydd wedi ennill digon o gefnogaeth i fod yn ymgeisydd am yr arweinyddiaeth. Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething hefyd wedi mynegi diddordeb.