Mae cynorthwy-ydd dosbarth a wnaeth gam-drin un o’i disgyblion yn rhywiol wedi cael ei dedfrydu i saith blynedd dan glo.

Plediodd Rhian Nokes, 29, yn ddieuog i’r saith cyhuddiad yn ei herbyn, cyn newid ei phle hanner ffordd trwy’r achos yn Llys y Goron Abertawe.

Roedd hi wedi’i chyhuddo o weithgarwch rhywiol â phlentyn rhwng 13 a 15 oed.

Ffugio

Yn gyn-chwaraewraig i dimau pêl-droed a rygbi Cymru, clywodd y llys bod Rhian Nokes yn boblogaidd ymhlith y disgyblion, a bod y ferch y gwnaeth ei cham-drin yn ei hedmygu.

Dros gyfnod o amser, daeth y perthynas rhwng y ddwy yn glos, ac roedden nhw’n cysylltu â’i gilydd ar eu ffonau symudol yn rheolaidd. Trodd y berthynas yn rhywiol ar ôl cyfnod.

Ond dechreuodd Rhian Nokes honni bod ganddi diwmor ar ei hymennydd, a hynny’n anwiredd.

Ac yn aml byddai’n ffugio pryder tros y mater er mwyn perswadio’r disgybl i’w chysuro drwy ei chyffwrdd mewn modd rhywiol.

Peidiodd y ferch â chyfathrebu gyda’r cynorthwy-ydd dosbarth ychydig cyn ei phen-blwydd yn 16 oed, ac mi wnaeth hi ymatal rhag cysylltu â’r heddlu tan 2017.