Mae Mark Polin, Prif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd, a Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ymhlith y rhai sydd wedi’u hanrhydeddu fel rhan o Anrhydeddau Pen-blwydd Brenhines Loegr.
Bydd Mark Polin yn ymddeol ym mis Gorffennaf er mwyn mynd yn Gadeirydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Medi.
Ymunodd e â’r heddlu yn 1983, a chafodd ei benodi’n Brif Gwnstabl yn 2009.
Cafodd ei anrhydeddu â Medal Heddlu’r Frenhines yn 2010.
Mae’n derbyn OBE.
Huw Vaughan Thomas
Mae Huw Vaughan Thomas wedi derbyn CBE am ei wasanaeth i archwilio cyhoeddus ac i atebolrwydd yng Nghymru.
Fe fydd yntau hefyd yn ymddeol, ym mis Gorffennaf, ar ôl wyth mlynedd yn y swydd.
Ond mae ei wasanaeth cyhoeddus yn ymestyn dros bum degawd, ac yntau wedi gweithio yn yr Adran Gyflogaeth, a chynghorau Gwynedd a Sir Ddinbych.