Mae Comisiynydd Heddlu wedi galw am ar Lywodraethau Cymru a San Steffan i weithredu, er mwyn delio â thrafferthion ariannol lluoedd y wlad.

Daw’r alwad gan Arfon Jones – Comisiynydd Heddlu’r Gogledd – wedi iddo ddod i’r amlwg bod swm £3 miliwn i hyfforddi heddweision Cymru wedi “diflannu”.

Gan fod lluoedd Lloegr wedi derbyn eu siâr nhw o’r gronfa, mae’r Comisiynydd yn “pryderu’n fawr” y bydd recriwtiaid o Gymru yn heidio i Loegr.

Byddai hyn yn “niweidiol i gymunedau Cymru”, meddai, gan ategu y gallai safon yr hyfforddiant yng Nghymru waethygu oherwydd diffyg cyllid.

Swyddi

“Problem anfwriadol” yw hyn, meddai Arfon Jones, sydd wedi’i achosi gan Fformiwla Barnett -sustem sy’n dewis faint o arian sy’ cael ei ddyfarnu i Gymru.

Mae’n nodi bod y fformiwla wedi achosi trafferthion ariannol i’r heddlu mewn meysydd eraill, ac mae’n pryderu y gallai hyd at 200 o swyddi gael eu colli yng Nghymru os na fydd newid.

Ers 2010, mae 2,500 o swyddogion heddlu wedi colli’i swyddi oherwydd toriadau.

Galw am “ymyrraeth”

“Ni allwn gael sefyllfa lle mae heddluoedd Cymru naill ai’n syrthio ar ôl Lloegr o ran ansawdd yr addysg a roddir i heddweision,” meddai.

“Neu [lle maen nhw’n] gorfod gwneud gostyngiadau sylweddol pellach yn ein niferoedd. Yn weithredol, mae’r naill ddewis neu’r llall yn annerbyniol.

“Ni allwn ddatrys y ddau ddewis hynod annymunol yma mewn ffordd sy’n diogelu buddiannau ein cymunedau heb ymyrraeth weithredol ac adeiladol Llywodraethau Caerdydd a Whitehall.”