Byddai datganoli’r pwerau tros blismona a’r llysoedd barn yn galluogi i Lywodraeth Cymru i “wneud llawer mwy i helpu i atal troseddu”, meddai.

Mae’r Llywodraeth wedi anfon tystiolaeth i’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy’n ystyried y drefn sydd ohoni.

Yn ei thystiolaeth, mae’r Llywodraeth yn nodi bod y drefn yng Nghymru yn “hen ffasiwn”, a bod diffyg cynnydd yn y maes, o gymharu â meysydd datganoledig eraill.

Mae cyfrifoldeb tros blismona a chyfiawnder yn nwylo Llywodraeth Prydain, ac yn ôl y Llywodraeth, mae hyn yn cael “effaith fawr ar y ffordd o lywodraethu yng Nghymru”.

Hefyd mae’r Llywodraeth yn herio amharodrwydd San Steffan i ildio rhagor o bwerau yn y maes gan nodi “nid oes unrhyw reswm pam na ddylid datganoli’r materion hyn”.

Ac mae Llywodraeth Cymru yn ategu mai “hynodrwydd sy’n deillio o ddigwyddiadau bron i bum can mlynedd yn ôl yw’r diffyg awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru”.