Mae £3 miliwn ar gyfer hyfforddi heddweision Cymru wedi “diflannu”, yn ôl Ffederasiwn yr Heddlu.

Ac maen nhw yn poeni y bydd Cymry yn diflannu dros Glawdd Offa i hyfforddi.

Caiff yr arian dan sylw ei roi i luoedd er mwyn eu cynorthwyo i hyfforddi swyddogion newydd, ac yn Lloegr mae pob llu bellach wedi derbyn ei siâr.

Ond yng Nghymru, nid yw’r lluoedd wedi gweld yr un geiniog o’r gronfa hyd yma.

Pryder Ffederasiwn yr Heddlu yw y bydd darpar blismyn yn cefnu ar Gymru yn sgîl hyn, ac mae’r corff yn beio llywodraethau Cymru a San Steffan am y sefyllfa.

Pwy sydd ar fai?

Llywodraeth Prydain sy’n bennaf gyfrifol am y gronfa, ond Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddyfarnu’r swm Cymreig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi beio Llywodraeth Prydain, ond dydyn nhw ddim wedi cynnig esboniad o le’r aeth yr arian.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad nhw sy’n gyfrifol am hyfforddi swyddogion Cymru.