Mae cynghorwyr Ynys Môn wedi gwrthod yn gryf y cynlluniau i uno â Chyngor Gwynedd.

Mae Dogfen Ymgynghorol Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru, sy’n ffafrio ad-drefnu, yn gosod ei fwriad ar gyfer “llywodraeth leol gryfach, sydd wedi’i grymuso yng Nghymru”.

Ond, rhybuddiodd adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn heddiw (dydd Iau, Mehefin 7) fod y Papur Gwyrdd yn canolbwyntio’n ormodol ar strwythurau, llinellau ar fap a mwy o bwerau – ond nad oedd llawer o sôn am y ffordd orau o ddiogelu atebolrwydd lleol.

Gwrthodwyd uniad yn unfrydol gan gynghorwyr, wrth iddyn nhw nodi y byddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar drigolion yr ynys o ran y ddarpariaeth gwasanaeth; democratiaeth ac atebolrwydd lleol yn ogystal ag effaith ar yr economi leol a lefelau’r dreth gyngor.

Dim manteision 

“Dydan ni ddim wedi ein darbwyllo bod unrhyw fanteision o uno ac yn sicr nid dyma’r ateb i’r toriadau ariannol sylweddol a wynebir gan gynghorau ar draws Cymru,” meddai Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn.

“Mae llywodraeth leol yng Nghymru eisoes yn wynebu toriadau ariannol sylweddol ond rydym eto i glywed gan Lywodraeth Cymru o le y bydd yr arian yn dod i dalu amdano. Amcangyfrifir y gallai ad-drefnu llywodraeth leol gostio dros £200m.

“Byddai uno ardaloedd Ynys Môn a Gwynedd yn creu ardal ddaearyddol enfawr a byddai hynny’n siŵr o effeithio ar atebolrwydd lleol a sut y darperir gwasanaethau yn lleol,” meddai Llinos Medi wedyn.

“Mae aelodau hefyd yn teimlo y gallai ad-drefnu amharu ar y gwaith sy’n cael ei wneud a llesteirio cynnydd ar brosiectau isadeiledd sylweddol a arweinir gan y Cyngor a’r gwaith o drawsnewid y gwasanaethau.”

Y cam nesaf 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn eisoes wedi dangos ei ymroddiad i gydweithio ag awdurdodau eraill ac fe gytunodd aelodau y dylid ymchwilio i bartneriaethau newydd o ran darparu gwasanaethau.

Mae Bryan Owen, arweinydd yr wrthblaid a grwp Annibynwyr Môn, yn cytuno â nifer o’r pryderon.

Bydd y Cyngor Sir yn cyflwyno ymateb manwl i Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, erbyn Mehefin 12.