Dylai arolygiadau ysgol gael eu gohirio am flwyddyn tra bod newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r system addysg, yn ôl adroddiad newydd gan Estyn.

Mae dogfen y corff arolygu hefyd yn argymell bod ysgolion yn eu arfarnu eu hunain, gyda rhai yn ennill yr hawl i osgoi arolygiadau yn gyfan gwbwl.

Yr Athro Graham Donaldson sy’n gyfrifol am yr adroddiad, sy’n ystyried dyfodol arolygiadau yng Nghymru – yn ogystal â goblygiadau’r cwricwlwm newydd.

Argymelliadau

Mae’r adroddiad yn cynnwys 34 argymhelliad gan gynnwys:

  • Ehangu rôl Estyn o ran darparu cymorth i ysgolion;
  • Adroddiadau arolygiad sy’n darparu “rhagor o wybodaeth”;
  • Cryfhau annibyniaeth Estyn ymhellach;
  • Ymdrin ag “ysgolion sy’n achosi pryder” mewn modd gwahanol.

Sustem “fwy agored”

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi canmol yr adroddiad am gynnig argymelliadau positif, yn hytrach na “strategaeth o ofn a braw, a chywilyddio cyhoeddus”

“Mae’r pwyslais ar ymddiriedaeth, cydweithio, cefnogaeth a dysgu proffesiynol … i’w groesawu’n fawr iawn,” meddai Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC.

“Mae UCAC yn ffyddiog y bydd hyn yn creu system llawer fwy agored, gonest ac aeddfed fydd yn fwy tebygol o arwain at welliannau ar gyfer disgyblion.”

“Effaith anferthol”

Mae Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU Cymru) wedi croesawu’r adroddiad, ac mae’n nodi y byddai gweithredu’r argymelliadau yn “lleddfu” eu pryderon.

“Bydd yr argymelliadau yma gan Graham Donaldson – os byddan nhw’n cael eu derbyn a’u gweithredu – yn cael effaith anferthol ar drefniadau arolygiadau ysgol yng Nghymru,” meddai David Evans, Ysgrifennydd Cymreig yr NEU Cymru.

Yn benodol, mae’r undeb yn croesawu’r argymhelliad bod arolygiadau yn cael eu gohirio – mae NEU Cymru wedi “erfyn yn gryf” am y fath gam.