Mae dyn 20 oed o’r Barri wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo mewn perthynas ag ymosodiad difrifol yn y dref.

Mae Keiron Parker wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol bwriadol, o gythrwfl, ac o fod â chyllell yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â digwyddiad yn y dref ar Fehefin 3.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar Orffennaf 4.