Mae cynlluniau i ddympio tunelli o fwd ymbelydrol yn y môr ger Bro Morgannwg, wedi derbyn sêl bendith gan gorff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Daw’r mwd o orsaf bŵer Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf, a bellach mae cwmni NNB Gen Co wedi derbyn caniatâd i fwrw ati gyda’r gwaith o’i waredu.

Bydd y mwd yn cael ei dympio 19 milltir o Gaerdydd, ac mi fydd arolygon o’r safle gwaredu yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod y deunydd yn gwasgaru.

“Caniatâd terfynol”

“Rydym wedi rhoi ein caniatâd terfynol i’r cwmni waredu’r gwaddodion ar ‘Cardiff Grounds’ [enw ar y safle dympio]” meddai John Wheadon, Rheolwr Gwasanaethau Trwyddedu yn CNC.

“Rydym yn hyderus na fydd y gweithgaredd arfaethedig yn niweidio pobol na’r amgylchedd a bod y deunydd yn addas i’w waredu.”

Er bod y cynllun bellach wedi derbyn caniatâd ar gyfer y dympio, nid yw’n glir os oes trwydded wedi’i roddi er mwyn codi’r mwd yn y lle cyntaf.

Arbrofion

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi datgan eu bod yn fodlon na fyddai’r dympio yn cael effaith ar bobol, yr amgylchedd, na bywyd gwyllt; ger y safle gwaredu.

Daeth y corff i’r casgliad yma ar sail arbrofion annibynnol o samplau o’r safle – arbrofion sydd wedi cael eu beirniadu a’u herio gan rai.