Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi’i chyhuddo o roi blaenoriaeth i fusnesau pwerus tros yr iaith.

Daw hyn wedi iddi gyhoeddi na fydd Llywodraeth Cymru yn gorfodi rhagor o sectorau i fabwysiadu’r Safonau Iaith – hynny yw, darparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg – am y tro.

Wrth siarad yn y Senedd bnawn Mawrth (Mehefin 5), dywedodd y Gweinidog mai cynyddu nifer y bobol sy’n “lsiarad ac yn defnyddio’r Gymraeg, yw’r flaenoriaeth o hyn ymlaen.

Ac fe gadarnhaodd bod y Llywodraeth yn bwriadu bwrw ati i sefydlu Comisiwn y Gymraeg – corff a fydd yn cymryd lle Comisiynydd y Gymraeg.

“Cwbwl groes i farn pobol Cymru”

Mae Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cyhuddo’r Llywodraeth a’r Gweinidog o anwybyddu barn y bobol.

Dim ond 15% sydd o blaid diddymu rôl y Comisiynydd, meddai, tra bod ei datganiad tros y Safonau Iaith yn “mynd yn gwbwl groes i farn pobol Cymru ac Aelodau Cynulliad”.

“Dydyn ni ddim yn deall pam fod Eluned Morgan am ddilyn agenda adain dde o leihau rheoleiddio er lles cyrff a busnesau pwerus,” meddai Heledd Gwyndaf.

“Mae’n gam mawr yn ôl ei bod hi’n sôn am ‘ddarbwyllo’ busnesau mawrion pan fo pob arbenigwr yn gwybod mai rheoleiddio yw’r ateb.”