Daethpwyd o hyd i blentyn 2 oed mewn ffynnon o flaen Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i’r ffynnon am 2.45pm heddiw. Cafodd y bachgen bach driniaeth yn y fan a’r lle gan barafeddygon.

Aethpwyd ag ef mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae’r ffynnon wedi ei gau i’r cyhoedd gan yr heddlu.