Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi (Wicipedia)
Bydd beddrodau tywysogion, cofrestri priodas 350 mlwydd oed a pheintiadau mur o’r oesoedd canol ymysg y trysorau fydd i’w gweld y penwythnos hwn wrth i eglwysi ledled Cymru agor eu drysau i ddangos eu treftadaeth.

Mae mwy na 300 o eglwysi’n cymryd rhan yn y Diwrnod Eglwysi Lleol Dydd Sadwrn nesaf i dynnu sylw at drysorau’r Eglwys.

Mae llawer ohonynt yn adeiladau rhestredig ac yn cynnwys gemau pensaernïol ac artistig fel cerrig Celtaidd hynafol, sgriniau o’r canol oesoedd, gwydr lliw gwerthfawr o Oes Victoria a cherfluniau modern beiddgar.

Mae rhai ohonynt yn gysylltiedig â straeon a chwedlau Cymreig fel y bedyddfaen lle bedyddiwyd y môr-leidr enwog Barti Ddu, man claddu Dic Penderyn, a laddwyd yn nherfysgoedd Merthyr, a bedd Jemima Fawr, a rwystrodd y Ffrancwyr yn eu hymdrech i feddiannu Abergwaun 200 mlynedd yn ôl.

Fe fydd ymwelwyr yn cael y cyfle i edrych ar ddogfennau cymdeithasol fel cofrestri bedydd a phriodas. Bydd teithiau tywys, bwyd a diod, arddangosfeydd, gweithgareddau i blant a gwasanaethau cymdeithasol i groesawu ymwelwyr.

“Er bod llawer o’r eglwysi ar agor i ymwelwyr drwy’r flwyddyn, mae hyn yn gyfle iddynt roi sylw i’w trysorau nad yw’r rhan fwyaf ohonom yn eu gweld neu’n eu cymryd yn ganiataol a hefyd i ddathlu eu rôl yn y gymuned fel gofodau cysegredig,” meddai Alex Glanville, Perchennog Gwasanaethau Eiddo’r Eglwys yng Nghymru.