“Rhesaid o fethiannau” cyn marwolaeth claf yng Nghwm Taf

Diweddarwyd am  

Llun: CCO

Bu farw claf o dde Cymru ar ôl i feddygon fethu â gweld twll yn ei goluddyn yn ddigon cynnar wrth iddo ddatblygu sepsis. Dyna mae’r Ombwdsmon wedi’i ganfod mewn ymchwiliad.

Cafodd cwyn ei gwneud gan chwaer Mr Y (ni ellir datgelu ei enw) ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a roddwyd i’r gŵr 55 oed yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr yn Ebrill 2015.

Aeth y chwaer, y cyfeirir ati fel Ms X, at yr Ombwdsmon ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fethu â mynd i’r afael â’i phryderon.

Aeth Mr Y i’r ysbyty yn dioddef poenau difrifol yn ei fol. Cafodd ei ryddhau ond aeth yn ôl i’r ysbyty ar ôl cael ei ganfod yn ddryslyd ac yn dioddef hypothermia.

Methiannau 

  • Dylid bod wedi adnabod a thrin y sepsis yn gynharach;
  • Ni chafodd seicosis steroid, sef yr hyn a wnaeth Mr Y yn ddryslyd, ei ganfod yn brydlon, ac achosodd hyn fwy o bryder i Mr Y a’i deulu;
  • Roedd arafwch cyn cydnabod bod Mr Y yn dioddef o lid y coluddyn difrifol ac roedd oedi diangen cyn ailgyfeirio at arbenigwyr priodol;
  • Collwyd cyfleoedd i adnabod pa mor ddifrifol oedd cyflwr Mr Y;
  • Roedd oedi cyn dechrau Mr Y ar feddyginiaeth newydd, ac nid oedd adolygiad amlddisgyblaethol digonol nac adolygiad penodol o’r pelydr-X o’i abdomen.

Ombwdsmon 

“Mae fy ymchwiliad wedi tynnu sylw at resaid o fethiannau difrifol o ran y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr Y,” meddai Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

“Yn anffodus, fyddwn ni fyth yn gwybod a allai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol petai wedi cael ei drin yn gywir ac wedi cael llawdriniaeth gynt.

“Mae hyn yn anghyfiawnder trasig i Ms X, a gallaf ond obeithio y bydd fy ymchwiliad yn rhyw fath o gasgliad iddi.

“Rwyf hefyd yn poeni nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi canfod y methiannau’n gynharach pan gafodd y gŵyn ei gwneud yn wreiddiol.

“Dim ond ar ôl i fy ymchwiliad ddechrau y gwnaeth Llawfeddyg Ymgynghorol adolygu’r nodiadau meddygol. Cafodd y math yma o drin cwynion yn wael ei amlygu yn fy adroddiad thematig diweddar Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Beunyddiol, ac mae ond yn ychwanegu at y trallod i’r teulu yn ystod cyfnod o alaru.”

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi cytuno i holl argymhellion yr Ombwdsmon gan gynnwys talu £4,500 i Ms X am y diffygion a’r anghyfiawnder a achoswyd i Mr Y ac i Ms X.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed