Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ladrad mewn bwyty Indiaidd poblogaidd ar gyrion Caernarfon ddoe (dydd Llun, Mehefin 4).

Fe gafodd arian ei gymryd o fwyty Sopna ym mhentref Pontrug, ac fe gafodd difrod sylweddol ei wneud i du mewn yr adeilad. Fe ddigwyddodd y lladrad rhwng 2 ac 8 o’r gloch y bore.

“Ein bwriad ydi ymchwilio’n drylwyr i’r achosion sy’n digwydd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu, “ond mae’n rhaid i ni bwysleisio bod cael cymorth gan y gymuned leol yn allweddol wrth geisio datrys achosion fel hyn.

“Rydyn ni, felly, yn rhybuddio pobol i fod ar eu gwyliadwraeth drwy’r amser, er mwyn gallu dod o hyd i ladron fel hyn.”