Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cefnogi cynnal pleidlais am Swyddog Materion Cymraeg llawn-amser ar gyfer eu hundeb.

Daw’r penderfyniad yn sgil tridiau o bleidleisio, lle wnaeth 681 o fyfyrwyr fwrw eu pleidlais. Pleidleisiodd 519 o blaid, 151 yn erbyn ac mi wnaeth 11 atal eu pleidlais.

Bydd y canlyniad yma yn cael ei ystyried yn awr gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr.

Os bydd y Bwrdd yn cefnogi’r penderfyniad, bydd pleidlais i benodi’r Swyddog yn cael ei chynnal ym mis Mawrth 2019 a bydd ef/hi yn dechrau ar ei (g)waith ym mis Medi 2019.

Swyddog Llawn-amser?

Ar hyn o bryd mae rôl y Swyddog Cymraeg yn un rhan amser.

Y swyddog yma sy’n gyfrifol am sicrhau cynrychiolaeth i fyfyrwyr Cymraeg, hybu’r diwylliant Cymraeg a Chymreig a sicrhau statws cyfartal i’r Gymraeg.

Byddai’r swyddog llawn amser yn derbyn cyflog o £18,811.

Mae gan y Brifysgol gyfanswm o 3,124 o fyfyrwyr Cymraeg cofrestredig.

“Llais cryfach”

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe bod canlyniad y refferendwm  yn “sicrhau bod llais cryfach o fewn yr Undeb gan y miloedd o siaradwyr Cymraeg sydd ymhlith myfyrwyr Prifysgol Abertawe.”

Ychwanegodd: “Bydd y swyddog pan yn weithredol nid yn unig yn codi llais ar ran Cymry Cymraeg ond yn fodd o sicrhau bod gwell mynediad at, a dealltwriaeth, o’r iaith a’i diwylliant gan holl fyfyrwyr y sefydliad.”

Bydd canlyniad y refferendwm nawr yn cael ei wirio gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr ac yn cael ei brosesu drwy ei bwyllgorau. Bydd etholiadau ar gyfer ethol y Swyddog Materion Cymraeg llawn amser cyntaf yn cael eu cynnal yng Ngwanwyn 2019.