Mae undeb ffermwyr wedi beirniadu’r penderfyniad i gau hufenfa yn Sir Ddinbych, gan rybuddio y bydd yn cael “effaith andwyol” ar yr ardal.

Cyhoeddodd Arla Foods yr wythnos diwethaf, y byddan nhw’n rhoi’r gorau i gynhyrchu caws ar eu safle yn Llandyrnog, ac y byddai 97 o bobol yn colli’u swyddi.

Mae’r cam yn rhan o gynllun £400 miliwn i arbed costau, ac mi fydd caws ‘Cymreig’ y cwmni yn cael ei gynhyrchu yn Nyfnaint o hyn ymlaen – bydd llaeth o Gymru’n cael ei ddefnyddio o hyd.

Pryder mawr

“Mae’r cam yma o bryder mawr i sector laeth Cymru,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Laeth Undeb Amaethwyr Cymru, Dai Miles.

“Bydd hyn yn lleihau capasiti cynhyrchu Cymru ymhellach. A gallai hyn beri bygythiad i gynhyrchwyr yn y dyfodol, o ystyried y pellter rhwng y safle prosesu newydd, a chyflenwyr Arla.”

Bydd yr hufenfa’n  parhau dan berchnogaeth Arla, ac mae’r cwmni wedi dweud eu bod yn edrych ar “bosibiliadau eraill ar gyfer y safle.”