Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy wedi galw ar Brif Weinidog a llywodraeth newydd Sbaen i ryddhau’r bobol sydd dan glo am ymgyrchu a gweithio tuag at annibyniaeth i Gatalwnia.

Mewn fideo ar wefan gymdeithasol Facebook, mae’n galw yn Sbaeneg ar i Pedro Sanchez – sydd newydd gamu i’r swydd gan ddisodli Mariano Rahoy yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder – i ryddhau carcharorion gwleidyddol.

Mae’n ei gyflwyno ei hun fel aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn siarad ag aelodau Llywodraeth Sbaen, ac yn dweud ei fod yn falch o weld llywodraeth newydd yno.

“Rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog newydd yn dewis trafod Catalwnia,” meddai Neil McEvoy, “ac y bydd yn dewis trafod gyda llywodraeth Catalwnia.

“Rwy’n gobeithio hefyd mai un o’i flaenoriaethau yn ei swydd fydd rhyddhau’r carcharorion gwleidyddol o Gatalwnia.”

Mae Neil McEvoy ar hyn o bryd wedi’i wahardd o Blaid Cymru, ac yn eistedd fel AC annibynnol ym y Senedd ym Mae Caerdydd.

Dyma’r fideo oddi ar ei dudalen Facebook:

Welsh politician calls for Catalan prisoners to be released

Message from Cardiff. The new Spanish Prime Minister needs to free the Catalan political prioners. Wales is with you.*video in Spanish with English subtitles*

Posted by Neil McEvoy on Friday, 1 June 2018