Mae dyn 22 oed wedi marw mewn damwain yn ymwneud â thractor yn Sir Ddinbych.

Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn ymchwilio i ddigwyddiad yn ardal Prion brynhawn dydd Sadwrn (Mehefin 2).

Bryd hynny, fe fu farw dyn ifanc, ac mae’r achos wedi’i gyfeirio i sylw’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Mae’r crwner hefyd wedi cael ei hysbysu o’r digwyddiad.