Heddiw (dydd Sul, Mehefin 3) mae disgwyl i Urdd Gobaith Cymru a Gŵyl y Gelli gyhoeddi partneriaeth newydd rhwng y ddau sefydliad.

Yn ystod sesiwn yn y Gelli Gandryll, lle bydd Chelsea Clinton yn cael ei holi gan y cyflwynydd Alex Jones am ei llyfr newydd She Persisted Around the World, fe ddangosir Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd.

Byrdwn neges eleni yw’r angen i wrando ar leisiau’r ifanc, sy’n cyd-fynd gyda thema merch cyn- arlywydd America, sef merched a ddefnyddiodd eu lleisiau i sbarduno newid.

Am bron i ganrif, mae’r Urdd wedi anfon neges o heddwch ac ewyllys da i’r byd. Daeth neges eleni â phobo ifanc o bob rhan o Ewrop at ei gilydd i rannu’r neges ar gyfryngau cymdeithasol, yn aml-ieithog.

“Dyma’r tro cyntaf i ni gydweithio gyda gŵyl â chyrhaeddiad byd-eang fel hyn,” meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, “ac rydyn ni’n falch iawn o wneud hynny.

“Mae’n addas ein bod yn gwneud y cyhoeddiad yn nigwyddiad Chelsea Clinton yn y Gelli. Mae hi’n ymgyrchydd pwerus dros greu a gwella cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd, a dyma’n union y mae Urdd Gobaith Cymru yn ceisio’i wneud mewn perthynas â phobol ifanc.

“Mae rhannu neges heddwch ac ewyllys da’r Urdd yn rhyngwladol, yn un o amcanion yr Urdd wrth i’r mudiad  baratoi at ddathliadau’r canmlwyddiant yn 2022.”