Mae disgwyl i’r heddlu agor ymchwiliad o’r newydd i helynt y cyn-Aelod Seneddol Jeremy Thorpe ar ôl deall bod dyn sy’n cael ei amau o droseddau’n dal yn fyw.

Yn ôl rhaglen ddogfen newydd am fywyd cyn-Aelod Seneddol Gogledd Dyfnaint, roedd Heddlu Gwent o’r farn fod Andrew Newton wedi marw.

Mae lle i gredu ei fod e wedi cael ei gyflogi i ladd Norman Scott, cyn-gariad Jeremy Thorpe.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal, ond fe ddaeth i ben yn 2015.

Ond yn ôl yr heddlu yn y rhaglen The Jeremy Thorpe Scandal ar BBC Four, mae ganddyn nhw dystiolaeth sy’n awgrymu bellach fod Andrew Newton yn dal yn fyw.

Ymateb Norman Scott

Mae Norman Scott wedi beirniadu “diffyg ymdrech” yr heddlu i ddod o hyd i Andrew Newton.

“Ro’n i’n credu bod [Heddlu Gwent] yn gwneud rhywbeth o’r diwedd, ond fe ddes i i wybod yn fuan iawn nad oedden nhw, a’u bod nhw’n parhau i gelu hyd y gwela i.”

Mae’r rhaglen ddogfen, sy’n cael ei darlledu nos Sul am 10 o’r gloch, yn adrodd hanes cynllwyn i lofruddio Norman Scott, oedd mewn perthynas â Jeremy Thorpe yn y 1960au pan oedd gwrywgydiaeth yn anghyfreithlon.

Bu farw Jeremy Thorpe yn 2014 – 35 o flynyddoedd ar ôl i’r Old Bailey ei gael yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio.

Ond cafodd ymchwiliad newydd ei gynnal yn 2015 gan Heddlu Gwent ac fe ddaeth i ben gan gredu bod Andrew Newton wedi marw.

Ymateb yr heddlu

Yn y rhaglen ddogfen, dywed Heddlu Gwent: “Cafodd ymholiadau eu cwblhau oedd yn awgrymu bod Mr Newton wedi marw.

“Rydym bellach wedi mynd yn ôl at yr ymholiadau hyn ac wedi nodi gwybodaeth sy’n awgrymu ei bod yn bosib fod Mr Newton yn dal yn fyw.

“O ganlyniad, bydd rhagor o ymholiadau’n cael eu cynnal er mwyn dod o hyd i Mr Newton er mwyn asesu a yw’n gallu cynorthwyo’r ymchwiliad.”