Mae Heddlu Gwent yn awyddus i siarad â dyn mewn perthynas â nifer o achosion o droseddau casineb yng Nghasnewydd y penwythnos diwethaf.

Cawson nhw eu galw am 9.50 fore Llun ar ôl i’r Neuadd Masonaidd gael ei rhoi ar dân a bod difrod sylweddol i allanfa dân yr adeilad. Mae lle i gredu bod y weithred yn un fwriadol.

Am 12.05 brynhawn dydd Llun, roedd adroddiadau bod graffiti sarhaus ar gampws Canol y Ddinas Prifysgol Cymru yng Nghasnewydd.

Mewn trydydd digwyddiad am 2.40 fore Mawrth, roedd rhywrai wedi llwyddo i gael mynediad i Ysgol Basaleg drwy ffenest, wedi cynnau tân ac wedi rhoi graffiti sarhaus ar yr adeilad.

Roedd nifer o adroddiadau eraill am graffiti ar draws y ddinas.