Bu farw mwy o feicwyr modur yng ngogledd Cymru yn ystod pum mis cynta’r flwyddyn eleni nag y bu farw drwy gydol 2017, yn ôl ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi.

Gareth Wyn Roberts, 53 o Gaergybi, oedd yr wythfed i farw eleni, pan gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Nhrearddur ddydd Mercher.

Bu farw saith o bobol ar ffyrdd y gogledd y llynedd, ac wyth yn 2016.

Mae Heddlu’r Gogledd yn bwriadu siarad â beicwyr dros yr wythnosau nesaf i geisio mynd i’r afael â’r sefyllfa ac maen nhw wedi cyhoeddi recordiad o sgwrs lle mae cariad beiciwr yn dweud wrth yr heddlu ei fod e’n bwriadu rasio.

Yn ystod y sgwrs, roedd hi wedi ymbil ar yr heddlu i geisio ei atal rhag “gwneud can milltir yr awr”.

‘Pryder’

Yn ôl Heddlu’r Gogledd, mae’r sefyllfa’n destun pryder erbyn hyn.

Ond mae ymgyrchwyr diogelwch ar y ffyrdd wedi galw ar yr heddlu i wneud mwy na siarad â beicwyr i ddatrys y broblem, gan alw am gyrsiau diogelwch newydd.

Serch hynny, mae’r heddlu’n mynnu bod cyrsiau sy’n bod eisoes yn llwyddiannus.