Mae Llywodraeth Prydain dan y lach yn sgil adroddiad ym mhapur newydd The Financial Times ei bod am wrthod buddsoddi ym Morlyn Bae Abertawe, cynllun a fyddai yn costio £1.3bn ac yn darparu trydan i 120,000 o dai am 120 o flynyddoedd.

Mae dros flwyddyn bellach ers i Adolygiad Hendry argymell y dylai’r prosiect fynd yn ei flaen, ac er gwaetha’ addewid gan Lywodraeth Cymru y byddan nhw’n ysgwyddo rhan o’r gost, mae’r cynllun wedi methu â denu diddordeb Llywodraeth Prydain hyd yn hyn.

Mae nifer o wleidyddion yng Nghymru eisoes wedi beirniadu arafwch Llywodraeth Prydain, ond yn ôl adroddiad The Financial Times, mae gweinidogion yn bwriadu gwrthod y cynllun yr wythnos nesa’.

Ond mae Llywodraeth Prydain wedi ymateb trwy ddweud ei bod yn dal i “archwilio’r holl bosibiliadau a’r heriau” sydd ynghlwm wrth y cynllun, er eu bod yn pryderu am y gost.

Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddai Llywodraeth Prydain yn cyflawni’r “brad mwyaf llwfr ar fuddiannau cenedlaethol Cymru ers Tryweryn” pe na bai prosiect Morlyn Llanw Abertawe yn mynd yn ei flaen.

Colli cyfle

“Rydw i’n condemnio Llywodraeth Prydain yn sgil yr adroddiad ei bod wedi gwrthod Morlyn Bae Abertawe,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

“Mae hwn yn gynllun hanfodol a fyddai wedi dod â manteision amgylcheddol ac economaidd i’r gymuned, Cymru a’r Deyrnas Unedig.

“Mi fydd y morlyn wedi bod yn gam allweddol mewn sicrhau bod Cymru’n arweinydd rhyngwladol mewn ynni gwyrdd, ac fe fyddai wedi arwain y ffordd at forlynau yng Nghasnewydd, Caerdydd a Bae Colwyn.”

Llywodraeth Prydain

Dywed llefarydd Llywodraeth Prydain: “Fel mae’r Ysgrifennydd Busnes wedi dweud wrth Aelodau Seneddol yn ddiweddar, wrth i’r ganran o drydan sy’n dod o ffynonellau adnewyddadwy gynyddu pedair gwaith ers 2010, mae gennym gyfrifoldeb i leihau’r effaith ar filiau cwsmeriaid, ac mae prosiect Abertawe ddwywaith yn fwy drud na phwerdy Hinkley.

“Mae’n rhaid i unrhyw benderfyniad ar Forlyn Abertawe fod yn werth yr arian i’r trethdalwr a chwsmeriaid.

“Er hynny, rydym wedi ymrwymo i archwilio’r holl bosibiliadau a’r heriau wrth ystyried cynllun sydd, fel y dywedodd Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, yn cynnwys technoleg heb ei phrofi sydd â chostau uchel a thipyn o ansicrwydd.”