Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi cyfleu pryder am adroddiad sydd yn galw am godi trethi siwgwr ar ddiodydd llaeth.

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi diweddariad o Gynllun Gordewdra Plant 2016, yn fuan – cynllun sy’n gobeithio gwaredu’r broblem.

Ac mae disgwyl i’r adroddiad argymell bod treth siwgwr ar ddiodydd melys, yn cael ei ymestyn i ddiodydd sydd â llaeth ynddyn nhw.

Mae’r FUW yn cefnogi amcanion y Cynllun Gordewdra Plant, ond yn “anghytuno’n gryf” y dylai diodydd melys a diodydd llaeth, gario treth.

Fitaminau

“Mae yna fitaminau a mwynau sy’n allweddol i iechyd a lles, mewn cynnyrch llaeth,” meddai Dai Miles, Cadeirydd cynnyrch llaeth yr FUW. “Mae’r rhain yn cynnwys, calsiwm, ïodin a fitamin B12.

“Cred yr FUW yw bod anghymwynas anferth wedi’i wneud i gynnyrch llaeth. A hynny trwy’r asesiadau a wnaed o faetholion cynnyrch llaeth.

“Mi allai hyn niweidio’r ddelwedd sydd gan gwsmeriaid o’r cynnyrch.”