Mae enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2018 yn dweud ei bod yn trafod pa mor hawdd yw twyllo ar y cyfryngau cymdeithasol yn ei gwaith buddugol.

Un o Gapel Seion, Cwm Gwendraeth yw Mirain Alaw Jones, ac mae hi fwyaf adnabyddus am chwarae rhan y cymeriad Lois yn Pobol y Cwm ychydig flynyddoedd yn ôl.

Ond mae’r actores hefyd yn ddramodydd, ac mae ei drama fuddugol, o’r enw ‘Dadrith’, yn trafod yr “emosiynau a’r teimladau” o fynd i’r brifysgol am y tro cynta’.

“Mae’n canolbwyntio ar gymeriad sy’n mynd i’r brifysgol, ac mae’n siarad dros y cyfryngau cymdeithasol gyda dwy fydd yn mynd i’r brifysgol gyda hi, ac y bydd hi’n rhannu fflat â,” meddai Mirain Alaw Jones.

“Mae’n archwilio pa mor hawdd yw twyllo trwy’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd, a’ch bod chi byth yn gallu nabod rhywun yn iawn. Ond hefyd, sut mae hwnna’n wir am fywyd go iawn trwy edrych ar ei pherthynas hi [y prif gymeriad] a’i chwaer hi.”