Gyda’r nifer sy’n mynd i oedfaon yn gostwng, a gweinidogion yn brin, dyw pethau ddim yn edrych yn rhy dda i wasanaeth Cymraeg eglwys yng Nghanada.

Mae’r gwasanaeth yn cael eu cynnal yn Eglwys Unedig Gymraeg Dewi Sant Toronto ar ddydd Sul cyntaf bob mis – gan eithrio misoedd Gorffennaf ac Awst.

Ond, erbyn hyn, dim ond deg i ddeuddeg o bobol sy’n troi allan, ac mae’r pregethau yn cael eu darlledu trwy YouTube, gyda gweinidogion o Gymru yn eu recordio a’u hanfon dros yr Iwerydd.

Dan yr amgylchiadau, fe fydd Eglwys Dewi Sant yn cynnal cyfarfod eglwysig yn syth ar ôl gwasanaeth dydd Sul nesaf (Mehefin 3) i drafod y ffordd ymlaen.

Cynnal arolwg

“Does dim llawer yn mynychu’r gwasanaeth Cymraeg, oherwydd mae llai o bobol yn siarad Cymraeg,” meddai Clarice Terry, Clerc Sesiwn yr eglwys, wrth golwg360, “ond rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cadw’r deunydd Cymraeg.

“Byddwn yn cynnal arolwg – dyna’i gyd. Does dim byd yn mynd i ddigwydd ar Fehefin 3. Byddwn ni’n llenwi ffurflenni ac yn eistedd i lawr ac yn dadansoddi’r rheiny.”

Mae Clarice Terry yn nodi bod rhoi’r gorau i gynnal gwasanaethau Cymraeg yn “bosibilrwydd”, ond yn ategu bod yna “bob math o bosibiliadau” sy’n cynnwys cynnal y gwasanaethau yn llai aml.