Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi dechrau pleidleisio i benderfynu a fydd rôl Swyddog Cymraeg Undeb y Myfyrwyr yn dod yn swydd lawn amser.

Swydd ran amser yw hi ar hyn o bryd, ond fe gafodd cynnig ei gyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn ddiweddar, yn galw am newid y swydd i un lawn-amser.

Fe fydd myfyrwyr nawr yn cael y cyfle i ateb y cwestiwn, ‘A ddylai swydd y Swyddog Materion Cymraeg Rhan-amser gael ei amnewid â Swyddog Materion Cymraeg Llawn-amser, yn dechrau yn y flwyddyn academaidd 2019/2020?’

Ond mae’r rhai sy’n gwrthwynebu ei throi hi’n swydd lawn amser yn annog myfyrwyr i ymatal rhag pleidleisio – mae angen 598 o bleidleisiau ar yr ymgyrch ‘o blaid’ er mwyn ennill.

Ymgyrchu

Mae disgwyl i fyfyrwyr ymgyrchu o blaid ac yn erbyn y swyddog yng ngham nesa’r broses, ac fe fydd y naill ochr a’r llall yn derbyn £100 yr un at eu hymgyrchoedd.

Fe fydd gan bob myfyriwr – Cymraeg neu beidio – yr hawl i bleidleisio, ac mae’n rhaid i 3% o’r holl fyfyrwyr bleidleisio er mwyn i’r bleidlais fod yn ddilys.

Rhaid i’r bleidlais gyrraedd mwyafrif o ddau draean (66.6%) er mwyn i’r bleidlais gael ei phasio.

Pe bai’r ymgyrch dros swyddog llawn amser yn llwyddiannus, fe fyddai e/hi yn cael ei (h)ethol y gwanwyn nesaf, ac yn dechrau ar y gwaith fis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Byddai’r swyddog yn aelod o dîm sydd eisoes yn cynnwys y Llywydd, Swyddog Addysg, Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau, a Swyddog Lles.

Rôl y swyddog

Yn ôl canllawiau Undeb y Myfyrwyr, mae’r Swyddog Cymraeg yn gyfrifol am sicrhau cynrychiolaeth i fyfyrwyr Cymraeg, hybu’r diwylliant Cymraeg a Chymreig, sicrhau statws cyfartal i’r Gymraeg, cefnogi myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a sicrhau cyfleoedd chwaraeon drwy’r Gymraeg.

Byddai cyfrifoldebau penodol y swyddog yn cynnwys cadeirio Fforwm Materion Cymraeg yr Undeb, bod yn aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, trefnu gweithgareddau a theithiau Cymraeg a Chymreig a sicrhau dwyieithrwydd yr Undeb o ddydd i ddydd.

Byddai’r swyddog llawn amser yn derbyn cyflog o £18,811 ac mae cost ychwanegol o £8,733.54 y flwyddyn am gael swyddog llawn amser.

Mae gan y Brifysgol gyfanswm o 3,124 o fyfyrwyr Cymraeg cofrestredig.

Dadleuon yn erbyn

Cafwyd gwrthwynebiad sylweddol i’r syniad o gyflwyno Swyddog Cymraeg llawn amser yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac mae’r ymgyrch yn ei erbyn wedi cyflwyno nifer o ddadleuon, sy’n cynnwys:

  • Y gost uchel o gynnal y swydd (dros £27,500) ac felly byddai angen codi pris gweithgareddau a mynediad i ddigwyddiadau i ateb y gost ychwanegol
  • Byddai cyflwyno Swyddog Cymraeg llawn amser yn arwain at ymgyrch i gyflwyno Swyddog Myfyrwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig llawn amser, gan arwain at gost ychwanegol eto fyth

Ac mae’r ymgyrch yn erbyn hefyd yn galw ar i fyfyrwyr ymatal rhag pleidleisio, gan y byddai hynny’n golygu mwy o bwysau ar yr ymgyrch o blaid i gyrraedd y 598 o bleidleisiau angenrheidiol i ennill.

Mae modd i fyfyrwyr bleidleisio tan 3 o’r gloch brynhawn dydd Gwener (Mehefin 1).