Mae perchnogion hufenfa yn Sir Ddinbych, a fydd yn cau ar ddiwedd y flwyddyn, yn edrych ar “bosibiliadau eraill ar gyfer y safle”. Ac fe allai hynny olygu ailagor ymhen rhai blynyddoedd, i gynhyrchu bwyd gwahanol.

Ddydd Mawrth (Mai 29), fe gyhoeddodd Arla Foods eu bod yn bwriadu rhoi’r gorau i gynhyrchu caws ar eu safle yn Llandyrnog, ac y byddai 97 o bobol yn colli’u swyddi.

Y bwriad ydi symud y gwaith i rannau eraill o wledydd Prydain.

Cynlluniau

Ond, wrth siarad â golwg360, mae llefarydd ar ran Arla Foods wedi awgrymu y daw eto haul ar fryn.

“’Dyn ni ddim yn gadael y safle’n llwyr, fel y cyfryw,” meddai’r llefarydd. “Rydym yn edrych ar bosibiliadau eraill i’r safle. Ond mi allai gymryd tipyn o amser i’r cynlluniau ddwyn ffrwyth.”

Mae’n debyg bod y cwmni’n gobeithio cynhyrchu rhagor o fathau o gaws, ac er bod cynhyrchiant Cheddar yn dod i ben yn Llandyrnog, gallai’r safle ailagor rhyw ben i gynhyrchu math arall o gaws.

“Mae’n bosib mai Llandyrnog fyddai’r safle ar gyfer gwneud hynny,” meddai. “Er ein bod ni’n stopio cynhyrchu yno, rydym yn mynd i ddal gafael yn y safle, tra’n bod ni’n ystyried opsiynau eraill.

Er hyn, mae’n “annhebygol”, meddai, y byddai’r swyddi i gyd yn cael eu hachub petasai’r safle’n ailagor, ac mi fydd “sawl blwyddyn” yn mynd heibio nes y byddai’n gallu meddwl am agor.

Llaeth o Gymru 

 “thalp da” o gaws yn Llandyrnog yn cael ei gynhyrchu â llaeth Cymreig,  mae’r llefarydd yn mynnu nad yw Arla Foods wedi cefnu ar gynnyrch Cymreig yn llwyr.

“Rydym yn cynhyrchu caws Cymreig sy’n cael ei gynhyrchu gan laetho  ffermwyr Cymreig, a byddwn yn parhau i gynhyrchu caws Cymreig,” meddai.